Asesiadau

Beth sy’n digwydd yn ystod asesiad?

  • Rydym yn asesu i ganllawiau NICE ac mae asesiad fel arfer yn cynnwys;
  • Cyfweliad clinigol i gael gwybodaeth gefndirol a hanes datblygiadol, meddygol a theuluol
  • Sylwadau ffurfiol ohonoch chi neu’ch plentyn ar fwy nag un achlysur ac mewn mwy nag un lleoliad
  • Asesiad gwybyddol i gael gwybod beth yw gallu a chryfderau a gwendidau chi / eich plentyn
  • Asesiad sgiliau cyfathrebu a / neu sgiliau sy’n ymwneud a symudiadau corfforol/ sensori os yw’n briodol
  • Asesiad ffurfiol o sgiliau cyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol chi / eich plentyn
  • Sesiwn adborth
  • Adroddiad manwl, gan gynnwys proffil o gryfderau a gwendidau ac awgrymiadau ar gyfer ymyrraeth neu reolaeth yn y dyfodol, a / neu gyfeirio at y GIG / gwasanaethau eraill

Rydym hefyd yn cynnig asesiadau cychwynnol – apwyntiad dwy awr, adborth llafar ac adroddiad byr gydag argymhellion. Byddwch yn gadael gydag asesiad byr o’ch anawsterau chi / eich plentyn a rhai awgrymiadau ar gyfer beth i’w wneud nesaf.

%d bloggers like this: